Beth a welsoch chi?

Ym 1306, holwyd 9 tyst am ddigwyddiadau a welsant yn Abertawe tua 17 mlynedd cyn hynny. Crogwyd y Cymro, William Cragh, gan William de Braose, Arglwydd Gŵyr, ac - yn ôl y stori - fe'i hatgyfodwyd yn wyrthiol.

Mae'r prosiect ymchwil 'Tystion Dinas' yn defnyddio'r tystlythyrau canoloesol hyn, yn ogystal â thystiolaeth ddogfennol ac archeolegol arall, i archwilio cwestiynau am le a safbwynt yn Abertawe'r Oesoedd Canol. Mae'n arbrofi gyda ffyrdd newydd o dystio'r dref ganoloesol, â'r nod o amlygu Abertawe'r Oesoedd Canol a'i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog heddiw.

Beth welwch chi?

Mae rhannau penodol o'r wefan hon ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys y dudalen gartref a pheth o gynnwys Taith Dywys y Ddinas.